chwarae eich rhan
chi yn dod a ynni'n fyw

Y Fenter
Mae Rhaeadr Aber, ym mhentref Abergwyngregyn, yn rhaeadr sy’n adnabyddus fel atyniad syfrdanol ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Yma ym mhentref Aber rydym yn falch ein bod yn derbyn 50,000 o ymwelwyr bob blwyddyn i gerdded i fyny at Raeadr Aber a thu hwnt i mewn i’r Carneddau. Mae rhai yn gyrru i fyny ac yn manteisio ar un o’r ddau faes parcio a reolwn (dim ond £2 y diwrnod gyda’r arian yn mynd i wella adnoddau yn y pentref), mae eraill yn parcio yn y maes parcio di-dâl yng ngwaelod y pentref ac yn cerdded i fyny. Trwy ddewis yr opsiwn hwn rydych yn mynd heibio i Tŷ Pwmp, lle gellir gweld arddangosfa am hanes Aber a Thywysogion Gwynedd oedd â’u llys yma, a Chanolfan Gymunedol yr Hen Felin a’r caffi.

Cynllun Anafon Hydro Scheme yw menter gymunedol ddiweddaraf Abergwyngregyn. Nid grym Rhaeadr Aber fydd yn gyrru’r gwaith cynhyrchu trydan hydro ond dŵr o ddyffryn Anafon gerllaw, wedi ei dynnu o’r afon yn uchel yn y Carneddau a’i ddychwelyd yn is i lawr yr afon unwaith ei fod wedi mynd drwy ein tyrbin. Perchnogion a rheolwyr y cynllun fydd Ynni Anafon Energy Cyf, Cymdeithas Ddiwydiannol a Darbodus a sefydlwyd i adeiladu a rhedeg y cynllun hydro cymunedol hwn.



Ein Nod

Ein nod oedd adeiladu a rhedeg gwaith cynhyrchu trydan hydro i:

  • gwneud y budd mwyaf allan o gyfraniad y trydan adnewyddadwy o’r safle tra’n gwarchod ecoleg, archaeoleg ac amgylchedd leol yng nghyffiniau’r cynllun.
  • cynhyrchu adbwn disgwyliedig blynyddol o tua 957 MWh, digon i gyflenwi tua 230 chartref ac i wrthbwyso tua 19,000 tunnell fetrig o ollyngiadau CO2 dros 40 mlynedd cyntaf ei fywyd;
  • ennill incwm sylweddol i gefnogi effeithlonrwydd ynni ac isadeiledd a mentrau cymdeithasol yn Abergwyngregyn a’r gymuned leol ehangach.


Cwmni Adfywio Abergwyngregyn

Cafwyd y syniad am Hydro Anafon gan Gyfarwyddwyr Cwmni Adfywio Abergwyngregyn (ARC) yn gweithio gyda Keith Jones o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, prif dirfeddiannwr Dyffryn Anafon.

Menter gymdeithasol yw ARC yn ogystal â Chwmni Cyfyngedig dan Warant a ymgorfforwyd yn 2002. Rheolir ef gan Fwrdd o 13 cyfarwyddwr gwirfoddol. Mae cyfarwyddwyr ARC yn cynnig ystod eang o brofiad gan gynnwys cynllunio, gweinyddu cyffredinol ac ariannol, rheolaeth cwmnïau, addysg prifysgol, gofal a gweinyddu maes iechyd, arlwyaeth a lletygarwch, cyfrifyddiaeth, y gwyddorau biolegol ac ecoleg.

Yn ystod y 12 mlynedd y bu ARC yn weithredol, mae o wedi mynd i’r afael ag ystod o gynlluniau cymunedol:

  • codi arian cymhorthdal o tua £470,000 i brynu ac adnewyddu Yr Hen Felin/The Old Mill, hen adeilad carreg yng nghanol y pentref i ddarparu adnodd cymunedol y mae o bellach yn ei reoli – mae hwn yn cynnwys ystafell gymuned a ddefnyddir yn gyson, caffi a chlwb snwcer – agorwyd Canolfan Gymunedol Yr Hen Felin ym Mawrth March 2006 gan Mrs Betty Williams AS;
  • codi arian cymhorthdal o tua £25K i brynu ac adnewyddu hen dŷ pwmp yn y pentref i leoli canolfan gwybodaeth ymwelwyr fechan a chanolfan treftadaeth (efo cyfleusterau toiledau) ar gyfer ymwelwyr â Dyffryn Aber;
  • datblygu maes parcio ger y fynedfa i’r pentref i ddarparu parcio am ddim ar gyfer ymwelwyr;
  • llogi maes parcio Bontnewydd, sy’n gwasanaethu Rhaeadr Aber a’r Warchodfa Natur Genedlaethol a mynyddoedd y Carneddau, oddi ar Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri am rent rhad a gosod peiriant ‘talu ac arddangos’:
  • ymrwymo i gytundeb rheoli efo Cyfoeth Naturiol Cymru i weithredu maes parcio’r Goedwigfa sydd hefyd yn gwasanaethu Rhaeadr Aber a’r
    dyffryn – y meysydd parcio hyn sydd ar hyn o bryd yn darparu prif lif incwm y cwmni.

    Am y cynlluniau hyn, enillodd ARC Wobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol yn 2011.

    Yn 2010 mewn partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, dechreuodd ARC edrych i mewn i ddichonoldeb datblygu cynllun trydan hydro ar Afon Anafon uwchlaw pentref Abergwyngregyn a gwnaethpwyd penderfyniad I fwrw ymlaen gyda’r prosiect.

    Roedd rhannau cyntaf y datblygiad, gan gynnwys cynnal ymchwiliadau dichonoldeb manwl, sicrhau’r caniatâd angenrheidiol, gan gynnwys i waith adeiladu’r hydro i gyd wedi cael eu rheoli gan grŵp bychan o Gyfarwyddwyr ARC, Jacqui Bugden, Gavin Gatehouse a Hywel Thomas a oedd yn gweithredu yn wirfoddol gan roi cymorth technegol ac arbenigol arall.

    Jacqui Bugden Gavin Gatehouse Hywel Thomas

    Dolen i wefan pentref Abergwyngregyn yn www.abergwyngregyn.org.uk.


    Ynni Anafon Energy Cyf.

    Mae Ynni Anafon Energy Cyf. wedi cael ei sefydlu i gwblhau datblygiad Anafon Hydro ac i’w weithredu a’i reoli unwaith y bydd wedi ei gomisiynu. Cofrestrwyd y Cwmni gyda’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol ar11eg Mehefin 2014 (rhif cofrestredig 32406R). Mae’r strwythur cyfreithiol hwn, Cwmni Lles Cymunedol neu ‘Bencom’, yn cael ei reolaethu gan yr ‘Financial Conduct Authority’ a’i lywodraethu gan Reolau penodol yn seiliedig ar reolau model a ddatblygwyd gan Cooperatives UK.

    Mae Rheolau Ynni Anafon Energy Cyf. yn sicrhau fod:

    • yr asedau yn cael eu defnyddio er budd y gymuned am byth trwy “glo asedau”
    • bydd rheolaeth y cwmni newydd yn parhau dan reolaeth y gymuned leol
    • bydd gan gyfranddeiliaid rym cyfartal dim ots beth yw maint eu buddsoddiad – un aelod, un bleidlais
    • bydd pob elw dros ben yn cael ei fuddsoddi yn y gymuned leol.

    Mae Ynni Anafon Energy Cyf. (YAE) yn Gwmni annibynnol ac nid yw’n is-gwmni o Gwmni Adfywio Abergwyngregyn Cyf(ARC). Fodd bynnag, mae ei dri Chyfarwyddwr dechreuol, Jacqui Bugden, Gavin Gatehouse a Hywel Thomas hefyd yn Gyfarwyddwyr ARC.

    Ar y 1af Mai 2014, etholwyd gan gyfranddalwyr Ynni Anafon Energy Cyf. Bwrdd newydd o 9 Cyfarwyddwyr etholedig. Mae'r Cyfarwyddwyr etholedig yma yn dod â chymysgedd o brofiad eang gan gynnwys gwaith cyfrifydd, rheolaeth gyffredinol ac ariannol, bancio, cynllunio gwlad a thref, y gyfraith, rheolaeth busnes, addysg prifysgol , gofal iechyd a gweinyddol, arlwyaeth a lletygarwch, gwyddoniaeth fiolegol, gorfforol ac ecolegol.

    Mae’r holl Gyfarwyddwr yn gweithredu ar sail wirfoddol. Yn bresennol hwy yw:

    Gavin Gatehouse

    Gavin Gatehouse

    Mae Gavin wedi byw yn Abergwyngregyn ers 1973 a magodd ei deulu yn y pentref. Ymddeolodd ym 1998 ar ôl 26 mlynedd ym Mhrifysgol Cymru, Bangor a chyfnod fel Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Biolegol felly mae ganddo brofiad mewn gweinyddiaeth gyffredinol, adnoddau dynol ac ariannol mewn adran fawr mewn prifysgol. Roedd y rôl hon a’i ddiddordebau ymchwil mewn entomoleg drofannol yn peri iddo ymwneud â llywodraethau cenedlaethol a rhyngwladol a chyrff sector breifat yn y DU, Affrica, y Dwyrain Pell, Awstralia a De a Gogledd America. Bu’n weithgar mewn cynlluniau a mentrau cymunedol yn Abergwyngregyn, fel cynghorydd cymuned, fel Cyfarwyddwr dechreuol a chyn-Gadeirydd Cwmni Adfywio Abergwyngregyn ac aelod a chyn-Gadeirydd Partneriaeth Dyffryn Treftadaeth Aber. Ef yw Cadeirydd sylfaenol Ynni Anafon Energy Cyf.

    Hywel Thomas

    Hywel Thomas

    Bu teulu Hywel yn byw yn Abergwyngregyn ers saith cenhedlaeth ac mae o’n byw yma ers 1986. Yn dilyn 38 mlynedd o brofiad mewn Cynllunio, ymddeolodd fel Rheolwr Rheolaeth Datblygu efo Adran Gynllunio Cyngor Gwynedd. Mae ganddo brofiad eang o weithio ar gynlluniau cymunedol ers 2000 gan gynnwys cynllun £470,000 i adnewyddu Yr Hen Felin/The Old Mill wnaeth ddarparu’r Ganolfan Gymuned, y Caffi a Chlwb y Gymuned. Ar gyfer y cynllun hwn enillodd Cwmni Adfywio Abergwyngregyn Wobr y Frenhines am Wasanaeth Cymunedol. Ef yw Cadeirydd a Chyfarwyddwr cyfredol Cwmni Adfywio Abergwyngregyn ac ef hefyd yw Ysgrifennydd Ynni Anafon Energy Cyf.

    Ian Cuthberson

    Ian Cuthbertson

    Mae Ian yn Gyfrifydd Siartredig sydd wedi dal swydd cyfarwyddwr ariannol mewn nifer o gwmnïau bychain gan gynnwys cwmni cyfyngedig cyhoeddus. Mae o hefyd wedi bod yn gysylltiedig gyda rheoli prosiectau adeiladu, mwyngloddio a gwaith peirianyddol ym Mhrydain a thramor ac yn fwy diweddar Cyfarwyddwr anweithredol neu lywodraethwr ar nifer o gyrff bychain. Mae o yn byw ym Mangor ac mae wedi bod yng Ngogledd Cymru ers 1970.

    Wynn Griffiths

    Wynn Griffiths

    Mae teulu Wynn wedi byw yn Aber ers nifer o genedlaethau, fe’i ganwyd yma ac mae o wedi byw yn Abergwyngregyn gydol ei fywyd. Mae o yn ffermio uwchben y pentref ac mae o hefyd yn gontractwr ffensio. Mae Wynn wedi cael rôl flaenllaw mewn materion cymunedol am nifer o flynyddoedd, yn gweithredu fel Cynghorydd Cymuned, Cyfarwyddwr Cwmni Adfywio Abergwyngregyn gyda rôl arbennig am wasanaethu Meysydd Parcio Rhaeadr Aber a bydd yn Ymddiriedolwr Dŵr Anafon, yr elusen sydd wedi ei sefydlu i rannu'r elw dros ben o'r hydro er lles y gymuned.

    Keith Jones

    Keith Jones

    Yn gweithio i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol fel Cynghorydd Amgylcheddol ers 2005, mae Keith hefyd yn arwain ar gynhyrchu ynni adnewyddadwy i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda'i rhaglen fuddsoddi yn ynni adnewyddadwy o £30m . Cyn hyn ac yn dilyn ei radd dosbarth cyntaf mewn Cynllunio Amgylcheddol,r oedd yn Brif Warden a Rheolwr Cefn Gwlad Eryri i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a oedd yn cynnwys rheoli fferm Eryri o 4000 erw. Ar yr un pryd roedd yn aelod sylfaenol o'r Sefydliad Rheolaeth a Chadwraeth Cefn Gwlad Cymru.

    Mae yn bresennol yn arbenigo mewn datblygiadau hydro ac wedi ymwneud gyda 7 cynllun hydro sydd wedi eu cwblhau yn barod ac yn arwain ar 16 arall. Yn rheolaidd mae o’n cynghori cyrff a'r llywodraeth ar faterion generadiad dosranedig. Yn aelod o grŵp arwain Cronfa Datblygu Ynni Cymunedol Cymru a hefyd yn eistedd ar grŵp defnydd tir Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd. Fel enillydd blaenorol o'r Wobr Aur Ashdean, fe wnaeth o gyda chydweithiwr sefydlu'r rhwydwaith Ffit for the Future" sydd yn dod â nifer o'r mudiadau tu hwnt i lywodraeth a pherchenogion tir at ei gilydd i ddysgu a rhannu ar ynni cynaladwyedd.

    Mae yn weithredol yn y sector gymunedol. Cyfarwyddwr cyfetholedig i Fwrdd Ynni Anafon ac Ynni Ogwen ac yn Gyfarwyddwr Ynni Padarn Peris ac yn ychwanegol i hyn yn rhoi cymorth i nifer o gwmnïau ynni cymunedol eraill. Cafodd ei ddewis fel amgylcheddwr y flwyddyn yn 2014 gan yr "Institute of Welsh Affairs" a dyfarnwyd iddo’r teitl Darlithydd Anrhydeddus gan Brifysgol Bangor yn 2015 a hefyd cafodd ei roi ar y rhestr fer fel pencampwr ynni gan Ynni Cymunedol Lloegr.

    Darlithydd ar ei liwt ei hun ar gynaladwyedd i Brifysgolion Caerdydd ac Efrog Newydd yn 2016. Fe gynrychiolodd y 67 o Ymddiriedolaethau Cenedlaethol trwy'r byd yn nhrafodaethau newid hinsawdd Paris. Mae yn "blogio" ac yn rhannu yn rheolaidd ac yn ogystal â bod o un o arbenigwyr Amgylcheddol dros y 15 mlynedd diwethaf ar raglen Radio BBC Cymru Galwad Cynnar a hefyd yn sylwebydd ar faterion ynni i'r BBC yng Nghymru.



    Rachel Mackereth

    ‘Rwyf wedi ymddeol yn ddiweddar yn dilyn tri deg mlynedd fel meddyg yn y GIG. Treuliais y rhan fwyaf o’r cyfnod hwn fel meddyg teulu mewn partneriaeth yn Betws-y-Coed. Yn ystod fy ngyrfa, yn ogystal a’r sgiliau clinigol , bu’n angenrheidiol i mi ddatblygu arbenigedd yn y maes o reoli a llywodraethu. Mae mynychu cyfarfodydd yn gyfarwydd iawn i mi!

    Mae Stephen fy ngwr hefyd wedi ymddeol o’r GIG lle bu’n feddyg teulu a phaediatrydd cymunedol. Magwyd ein dau blentyn yng Ngogledd Cymru a siaradant Gymraeg ond mae’r iaith ‘ar y gweill’ gen i.

    Buom yn byw am un-mlynedd-ar-hugain yn Conwy a symudasom i Abergwyngregyn tua phum mlynedd yn ol. Mae trigolion y pentref yn hynod o groesawgar ac arloesol fel y dengys y cynllun heidrodrydanol. Credaf fod ymroddiad a dygnwch y rhai sy’n gyfrifol am wireddu’r prosiect yma yn syfrdanol. Mae’n fraint gen i fod yn aelod o’r bwrdd a hyderaf y gallaf gyfrannu’n helaeth.

    Linton Roberts 3

    Linton Roberts

    Mae Linton wedi byw yn Abergwyngregyn ers 18 mlynedd gyda'i wraig Phillippa a’u 3 merch. Ganwyd ym Mangor Gwynedd ac addysgwyd yn Ysgol Friars Bangor. Astudiodd Bensaernïaeth Forwrol a Pheirianneg Alltraeth yn Adran Technoleg Forwrol Prifysgol Strathclyde, Glasgow. Yn dilyn graddio yn 1994, fe ymunodd gyda chwmni Cammell Laird, Birkenhead fel Pensaer Morwrol. Mae Cammel Laird yn un o'r iardiau longau mwyaf ym Mhrydain ac yn ystod ei yrfa mae o wedi gweithio mewn sawl rôl dechnegol, rheolaeth prosiect a chynhyrchu yn diweddu yn ddyrchafiad i Reolwr Gyfarwyddwr yn 2008. Yn ei yrfa mae Linton wedi cael cyfrifoldeb dros gyflwyno nifer o brosiectau adeiladu a pheirianneg aml-filiwn cymhleth dros ben.

    Linton sydd erbyn rŵan gyda chyfrifoldeb gweithredol am y Cwmni a gweithgareddau o dros 1,000 o bobl yn gweithio yno. Mae'r Cwmni yn bresennol yn adeiladu llong ymchwil newydd Prydain, RRS Sir David Attenborough, ar gost o £200m. Yn ychwanegol i'w rôl yn Cammell Laird mae Linton yn aelod o Bwyllgor Technegol Cofrestr Lloyds (grŵp ymgynghorol i'r "Marine Clasification Society") a hefyd yn Ymddiriedolwr o'r Kathleen & May (Heritage Schooner) Trust.

    Martin Taylor

    Martin Taylor

    Mae Martin yn enedigol o Ogledd Cymru ac wedi byw yn Llanfairfechan ers 1972. Ymddeolodd yn 2010 ar ôl 40 mlynedd ym Mhrifysgol Bangor ac yn ystod y cyfnod yma penodwyd ef fel Pennaeth Peirianneg Electronig, hefyd yn Ddeon Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg am 3 blynedd. Fel Pennaeth Peirianneg Electronig fe’i etholwyd hefyd i Fwrdd IDB (UWB) Ltd a oedd tan yn ddiweddar yn is-gwmni a oedd yn berchennog Prifysgol Bangor. Yn ystod ei gyfnod fel Deonr oedd yn aelod o Grŵp Cynllunio a Gweithredu'r Brifysgol. Mae o wedi gweithredu fel ymgynghorwr i gwmnïau yn amrywio o SME's i rai graddfa fawr ryngwladol yn cynghori ar broblemau cynhyrchu yn ymwneud â thrydan statig. Am nifer o flynyddoedd roedd yn Drysorydd ac yn Ymddiriedolwr Clwb Hwylio Llanfairfechan ac yn fwy diweddar cafodd ei ethol i Fwrdd Ynni Anafon Energy Cyf.

    Aled_01

    Aled Williams

    Yn wreiddiol o ardal LLyn, mae Aled bellach wedi ymddeol o waith llawn amser fel dylunydd electronig gan gymorthwyo canolfan ymchwil amgylcheddol lleol i ddatblygu sustemau newydd. Wedi graddio ym Mangor, aeth i Cheltenham lle bu'n arbennigo mewn peiriannau awtomatig ar gyfer sustemau rheoli awyrennau. Dychwelodd i Gymru gyda'i deulu yn 1984 gan ymgartrefu yn Llanfairfechan a bu'n dylunio offer daearegol a meddygol i gwmniau lleol. Yn 1992 ymunodd ag IDB Bangor lle bu'n dylunio ar gyfer amryw o brosiectau i'r Llywodraeth, Magnox, gorsafoedd hydro ac eraill. Mae'n swyddog ac yn organnydd mewn capel lleol ac ymddiddora mewn canu corawl, mynydda a thrwsio clociau.

    Nikki Whiting

    Nikki Whiting

    Mae Nikki wedi byw yn Abergwyngregyn ers 2006, ac yn gweithio yn lleol fel Nyrs Meddygaeth Teulu. Mae ei gyrfa nyrsio dros 50 mlynedd wedi cynnwys nifer o arbenigaethau. Er erbyn hyn wedi hanner ymddeol, mae hi’n dal i redeg clinic gwrhgeulydd ym mhentref cyfagos Llanfairfechan. Mae hi wedi bod yn aelod o Gwmni Adfywio Abergwyngregyn ers 2012 ac wedi ymuno â'r Bwrdd ers 2015. Wedi ymrwymo i'r cysyniad o ynni adnewyddol mae hi wedi bod yn gefnogwr brwdfrydig o gynllun hydro Ynni Anafon Energy ers y dechrau a chafodd ei chyd-ethol i'r Bwrdd yn 2015.



    Gellir darllen neu lawrlwytho Rheolau Ynni Anafon Energy Cyf. yma:




    Dosbarthiad elw’r hydro i’r Cymunedau

    Bydd yr elw dros ben a gynhyrchir gan y hydro yn cael ei drosglwyddo i elusen newydd Dŵr Anafon sy’n cael ei sefydlu gan Gwmni Adfywio Abergwyngregyn ar gyfer ddosbarthu’r arian er budd cymunedau lleol.

    Bydd Ymddiriedolwyr yr elusen hon yn gynrychiadol o’r cymunedau a benodir i fanteisio o’r cynllun. A bydd yn ystyried ceisiadau am arian o’r cymunedau hyn. Er y bydd y meini prawf ar gyfer asesu cynlluniau i’w hariannu i’w penderfynu gan yr ymddiriedolwyr, gallent gynnwys y canlynol:

    • dylai’r cynlluniau fod yn rhai cymunedol ac wedi eu bwriadu i fod yn llesol i gymuned Abergwyngregyn neu gymunedau cyfagos y bydd y pwyllgor yn eu henwebu;
    • dylai’r cynllun ymateb i fater neu angen cymunedol penodol;
    • dylai’r cynllun fedru dangos fod ganddo gefnogaeth y gymuned leol a mudiadau lleol;
    • dylai cynlluniau fod yn hunangynhaliol unwaith y bydd yr arian cynllun cychwynnol wedi ei fuddsoddi ynddynt a dylent gael effaith cynaliadwy yn y gymuned;
    • ni ddylai unrhyw gynllun fod er elw ariannol er y gellid ystyried rhoi arian cychwynnol i fusnesau bychain ble y gallant ddangos eu bod yn argoeli i greu cyflogaeth gynaliadwy;
    • dylai cynlluniau fedru dangos eu bod wedi ceisio ennill ariannu cyfatebol o ffynonellau eraill neu trwy godi arian;
    • dylai cynlluniau allu dangos gwerth ychwanegol ar ffurf:
      • lles amgylcheddol megis effeithlonrwydd ynni gwell a gollyngiadau carbon is
      • adeiladu neu brynu ased lleol
      • cyfleoedd cyflogaeth a/neu hyfforddiant
      • gwerth ychwanegol i’r gymuned
      • defnyddio gwirfoddolwyr

    Bydd penderfyniadau Ymddiriedolwyr yr elusen parthed unrhyw gais am arian yn derfynol.




    Mae’r safle yn defnyddio cwcis i storio gwybodaeth ar eich cyfrifiadur. Manylion pellach am sut i atal cwcis yn ein Polisi Cwcis
    Rwy’n hapus gyda hyn
     

    Cookies

    What is a Cookie

    A cookie, also known as an HTTP cookie, web cookie, or browser cookie, is a piece of data stored by a website within a browser, and then subsequently sent back to the same website by the browser. Cookies were designed to be a reliable mechanism for websites to remember things that a browser had done there in the past, which can include having clicked particular buttons, logging in, or having read pages on that site months or years ago.

    NOTE : It does not know who you are or look at any of your personal files on your computer.

    Why we use them

    When we provide services, we want to make them easy, useful and reliable. Where services are delivered on the internet, this sometimes involves placing small amounts of information on your device, for example, your computer or mobile phone. These include small files known as cookies. They cannot be used to identify you personally.

    These pieces of information are used to improve services for you through, for example:

    • recognising that you may already have given a username and password so you don’t need to do it for every web page requested
    • measuring how many people are using services, so they can be made easier to use and there’s enough capacity to ensure they are fast
    • analysing anonymised data to help us understand how people interact with our website so we can make them better

    You can manage these small files and learn more about them from the article, Internet Browser cookies- what they are and how to manage them

    Learn how to remove cookies set on your device

    There are two types of cookie you may encounter when using our site :

    First party cookies

    These are our own cookies, controlled by us and used to provide information about usage of our site.

    We use cookies in several places – we’ve listed each of them below with more details about why we use them and how long they will last.

    Third party cookies

    These are cookies found in other companies’ internet tools which we are using to enhance our site, for example Facebook or Twitter have their own cookies, which are controlled by them.

    We do not control the dissemination of these cookies. You should check the third party websites for more information about these.

    Log files

    Log files allow us to record visitors’ use of the site. The CMS puts together log file information from all our visitors, which we use to make improvements to the layout of the site and to the information in it, based on the way that visitors move around it. Log files do not contain any personal information about you. If you receive the HTML-formatted version of a newsletter, your opening of the newsletter email is notified to us and saved. Your clicks on links in the newsletter are also saved. These and the open statistics are used in aggregate form to give us an indication of the popularity of the content and to help us make decisions about future content and formatting.