Lleoliad yr Anafon Hydro
Mae safle’r Anafon Hydro yn nyffryn Anafon ym mynyddoedd y Carneddau sy’n codi yn union i’r de o bentref Abergwyngregyn sydd o fewn ffin ogleddol Parc Cenedlaethol Eryri o drwch blewyn a 4 cilomedr i’r gorllewin-de-orllewin o Lanfairfechan. Mae Afon Anafon yn tarddu o Lyn Anafon, cronfa fechan na ddefnyddir mohoni bellach 5.1 km i’r de-ddwyrain o bentref Abergwyngregyn. Mae’r afon yn disgyn yn gyflym am 3.3 km trwy rostir agored ac yna trwy Goedydd Aber i ymuno â’r Afon Rhaeadr Fawr yn union i fyny’r llif o Bontnewydd. Mae’r ddwy ffrwd yn ymuno i ffurfio Afon Aber sy’n llifo 2.3 km ymhellach drwy’r pentref a thir amaethyddol i mewn i ben dwyreiniol Culfor Menai yn Nhraeth Lafan. Mae’r afon yn disgyn 558 m i gyd o Lyn Anafon dros bellter o 5.6 km.
Lleolir yr ored dderbyn 1.4 km i lawr yr afon o’r llyn, yn darparu dalgylch o 5.05 km2 a cholofn ddŵr o 234m.
Gwybodaeth dechnegol
Mae Anafon Hydro yn gynllun colofn-uchel rhediad-afon. Mae gored isel yn bwydo dŵr i mewn i bibell 3 km sydd wedi ei chladdu. Mae’r bibell ddŵr yn disgyn cyfanswm o 230 medr fertigol, i ddechrau yn dilyn glan ogleddol yr afon ac wedyn yn ei chroesi ar bont bibell i’r lan ddeheuol cyn mynd i mewn i Goedydd Aber. Yma, mae hi’n dilyn llwybr y goedwig i lawr i’r tŷ tyrbin sydd wedi ei leoli fymryn oddi mewn i’r fynedfa i Warchodfa Natur Genedlaethol Rhaeadr Aber.
Mwyafrif yr ynni a gynhyrchir yw 270 KW er bydd yn amrywio yn gymesur â llif y dŵr yn yr afon. Mae’r ynni a gynhyrchir gan y tyrbin yn cysylltu â’r Grid Cenedlaethol trwy linell newydd i’r llinellau pwer presennol 150 m o’r tŷ tyrbin. I wneud hyn, roedd angen uwchraddio’r llinellau presennol o’r is-orsaf yn y pentref tua 1 km islaw’r man cysylltu.
Cynhaliwyd archwiliad dichonoldeb llaw gan John Howarth, Gwasanaethau Hydrobwer John Howarth, Dr Rod Gritten, (Gritten Ecology), ac arbenigwyr ar is-gytundebau . Y Datganiad Amgylcheddol a gynhyrchwyd o ganlyniad i hyn oedd sail ceisiadau i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar gyfer Trwyddedau Tyniad a Llociad ac i Awdurdod Cynllunio Parc Cenedlaethol Eryri. Rhoddwyd caniatâd cynllunio i’r cynllun yn Rhagfyr 2013 a rhodwyd y Trwyddedau Tyniad a Llociad yn Awst 2014.
Ariannu’r Cynllun
Roedd costau dechreuol datblygu’r cynllun, gan gynnwys archwiliadau dichonoldeb, cais am ganiatâd cynllunio, cais am drwyddedau tyniad a llociad, cyngor ar strwythurau gweinyddu, ffioedd cyfreithiol, cytundeb atal ar gyfer y cysylltiad grid, a.y.y.b., wedi eu talu gan gymorthdaliadau, adnoddau a chefnogaeth a ddarparwyd gan Ynni’r Fro, Cwmni Adfywio Abergwyngregyn, Her Ynni Cymunedol Cydweithredol, yr Ymddiriedolaeth Genelaethol, Gwynedd Werdd, y Waterloo Foundation, Canolfan Cydweithredu Cymru, yr Hwb Menter Cydweithredol a Chydweithredoedd y DU.
Roedd Gwasanaethau Hydrobwer John Howarth wedi amcangyfrif £1.25m fel y costau dylunio ac adeiladu cynllun Anafon fel a ganlyn:
- Costau datblygu’r cynllun - £60,000
- Costau adeiladu’r cynllun - £1,055,000
- Wrth gefn - £134,000
Fel roedd yn digwydd, adeiladwyd hydro Anafon ar gyfanswm cost o £1.1m, bron yn hollol unol gydag amcangyfrif John Howarth.
Daeth arian cyfalaf i'r prosiect o ddwy ffynhonnell. Ar 13 Medi 2014 lansiwyd Ynni Anafon Energy, cynnig cyfranddaliadau cymunedol wnaeth denu £450,900 o fuddsoddiad erbyn cau'r cynnig ym Mawrth 2015, gyda'r mwyafrif o gyfranddalwyr yn byw yn lleol ond gyda rhai eraill o weddill Prydain ac o dramor. Codwyd arian ychwanegol trwy fenthyciad banc o £545,000 o'r Charity Bank sydd yn ad-daladwy dros 15 mlynedd.
Cliciwch isod i weld cadarnhad dogfennau caniatâd;
Caniatâd cynllunio
Trwyddedau tyniad a llociad
Tariff-bwydo-i fewn achrediad rhagarweiniol Ofgem
Llythyr Cyllid y Wlad o sicrhad ar gyfer gostyngiad treth SEIS/EIS
Adeiladu’r Hydro Anafon
Yn dilyn proses tendro yn 2014, cyflogwyd dau gontractiwr i adeiladu’r hydro. Peirianneg Sifil Gelli i adeiladu’r tŷ tyrbin a'r gored a Chwmni Kevin Williams Earthworks i osod y lein bibell.
Yn dilyn seremoni i bentrefwyr ar y 4ydd Mai 2015, lle wnaeth y preswylwyr hynaf ac ieuangaf a anwyd yn Abergwyngregyn dorri'r dywarchen gyntaf gyda’i gilydd, cyrhaeodd Gelli ar y safle ar y 5ed o Fai i ddechrau gwaith ar y tŷ tyrbin. Dechreuodd Kevin Williams ar y lein bibell ar y 11 Mai.
Wnaeth gwaith adeiladu fynd yn ei flaen yn ddidrafferth gyda gwaith y ddau gontractiwr yn dod i ben ar ddiwedd mis Medi 2015.
Fodd bynnag, wnaeth Scottish Power fethu rhaglennu ui gwaith i osod yr is-bwerdy yn y tŷ tyrbin ac i uwchraddio'r cyflenwad trydan o'r pentref i gyd-fynd gyda chwblhau’r gwaith adeiladu. Dechreuwyd gwaith ar yr is-bwerdy yng nghanol mis Tachwedd ond ni ddechreuwyd ar waith uwchraddio'r cyflenwad trydan tan tuag at ddiwedd y mis ac erbyn hynny oedd y tywydd wedi troi oedd yn achosi oediad arall.
Ym mhen hir a hwyr cwblhawyd y gwaith uwchraddio a chysylltiad gyda'r grid ar y 27 Tachwedd 2015 a dechreuwyd ar waith comisiynu'r offer yn syth. Cwblhawyd y gwaith comisiynu ar y 30 Tachwedd gyda chwblhad llwyddiannus y Profion G59 ac fe wnaeth Hydro Anafon ddechrau cynhyrchu’n llawn ac allforio trydan i'r grid ar y 1af Rhagfyr, un mis cyn ein dyddiad targed gwreiddiol.
Incwm o Hydro Anafon
Mae ein rhagfynegiad ariannol am yr 20 mlynedd gyntaf yn dangos y bydd Hydro Anafon yn cynhyrchu refeniw crynswth o tua £200,00 y flwyddyn, a fydd yn cynnwys gwerthiant trydan a'r cymhorthdal i greu ynni adnewyddadwy gan y Llywodraeth, y Tariff talu-i-mewn. Yn dilyn hyn bydd yr incwm yn dod yn llwyr o'r gwerthiant trydan onibai y bydd yna gymhorthdal ychwanegol gan y llywodraeth sy’n annhebygol.
Yn dilyn gwasanaethu’r benthyciad banc ac ar ôl tynnu costau rhedeg allan, bydd yr elw a gynhyrchir yn ystod y 2 flynedd gyntaf o weithredu yn cael ei ddyrannu i sefydlu nifer o gronfeydd mewn cytundeb gyda'n benthyciad banc a rhag ofn argyfwng. O'r drydedd flwyddyn ymlaen, bydd YAE yn dechrau talu llog i’n cyfranddalwyr a bydd yr elw dros ben yn cael ei drosglwyddo i'r elusen Dŵr Anafon, i'w rannu er budd cymunedol.
Am y 15 mlynedd cyntaf tan fydd y benthyciad banc wedi ei dalu i ffwrdd, rydym yn disgwyl i'r elw dros ben fod tua £30,000 i £40,000 y flwyddyn. O flwyddyn 16 i flwyddyn 20 pan fydd ein Tariff talu-i-mewn yn dod i ben, dylai’r ffigwr yma godi i tua £80,000 i £90,000. Fodd bynnag yn ystod y cyfnod yma rydym wedi ymrwymo, o dan dermau ein les, i wneud cyfraniad o £25,000 y flwyddyn i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn benodol at waith cadwraethol yn y Carneddau'r lle mae'r hydro wedi ei gosod. Bydd y swm ar gael er budd y gymuned leol felly yn codi i tua £55,000 i £65,000.
Ar ôl blwyddyn 20 pan fydd y Tariff talu-i-mewn yn dod i ben bydd incwm yn ddibynnol ar bris trydan ac ni ellir rhagweld hynny.
Cofnod ffotograffig o'r gwaith adeiladu yr Hydro Anafon
Gwaith yn cychwyn ar y safle!
Bydd gwaith paratoawl adeiladu hydro Anafon yn cychwyn ar y 3ydd Fawrth 2015. Bydd hyn yn cynnwys torri nifer o goed conwydd yng Nghoedydd Aber i greu coridor gweithio i’r llinell pibell. Bydd y gwaith yn cymryd tua 3 wythnos.
Paul Smith (Alfa) a'i dîm yn dechrau gwaith clirio llwybr y bibell trwy Goedwig Aber.

Paul yn trafod y gwaith gyda Kevin Williams contractwr gwaith pibell, John Howarth peiriannydd prosiect Dr Rod Gritten clerc gwaith ecolegol.
Arolwg terfynol o'r llwybr y bibell.
Dr Rod Gritten clerc gwaith ecolegol, Kevin Williams contractwr gwaith pibell a John Howarth, peiriannydd prosiect yn archwilio rhan o rostir sensitif.

Y tywydd yn cau i mewn!

Gwaith torri coed wedi cwblhau ar hyd llinell y bibell trwy Goedydd Aber
Gwasanaeth Coed Alfa wedi cwblhau’r 100m o waith torri'r coed ar lwybr y bibell trwy goed Pyrwydd Sitka aeddfed Coedydd Aber ar y 17 Mawrth 2015, tri diwrnod o flaen amser.

Asesiad technegol annibynnol o'r Prosiect Anafon
Peirianwyr Derwent Hydro yn gweithredu asesiad technegol annibynnol o'r Prosiect Anafon ar ran Banc Charity, ein prif arianwyr go debyg

Mae YAE wedi dewis contractwyr i adeiladu'r Prosiect Hydro Anafon
Yn dilyn proses tendro, bydd y Bwrdd yn cynnig contractau i adeiladu'r Hydro Anafon i ddau contractwr. Peirianneg Sifil Gelli. Tremadog, bydd yn adeiladu'r argae a'r tŷ tyrbin a Kevin Williams Peiriannwr Tir, Bontddu ger Dolgellau bydd yn gosod y gwaith pibell.
Mae gan Beirianneg Sifil Gelli brofiad eang o weithio gerllaw ac oddi fewn afonydd a Kevin Williams osodwyd y gwaith pibell i Hydro Harnog ac mae felly yn brofiadol mewn gwaith gosod pibellau ac ail sefydlu tir mewn amgylcheddau sensitif.
Bydd y contractwyr yn disgwyl dechrau gwaith yn fuan mis Mai
Ecolegwyr, rheolwyr gwarchodfa a rheolwyr CNC ar y safle
Ecolegwyr, rheolwyr gwarchodfa a rheolwyr CNC yn cyfarfod John Howarth, Dr. Rod Gritten ac ein contractwyr am gyfarfod safle terfynol i drafod y Datganiad Methodoleg Adeiladu - 1 Ebrill

Gweithredol o'r diwedd!
Cymuned Abergwyngregyn yn ymgasglu ar gyfer torri'r dywarchen gyntaf ar safle’r Tŷ Tyrbin - 4 Mai.

Eirlys Williams ac Emily Jones (4 mis), y preswylydd hynaf ac ieuengaf i’w geni yn Aber, yn torri’r dywarchen gyntaf

Y contractwyr yn dechrau’r gwaith.
Y contractwyr, Gelli Civil Engineering, yn cyrraedd safle’r Tŷ Tyrbin - 5 Mai

Cabanau’r safle yn cael eu gosod

Argraff arlunydd o sut y bydd y Tŷ Tyrbin yn edrych gan un o breswylwyr Aber, Helen Flook
Y Tŷ Tyrbin o'r gât i mewn i'r gronfa

Y Tŷ Tyrbin o’r llwybr i'r Rhaeadr Fawr
7 Mai 2015
Trac mynediad i'r Tŷ Tyrbin yn cael ei osod.

9 Mai 2015
Torri’r clawdd yn ei ôl i baratoi ar gyfer y Tŷ Tyrbin.

12 Mai 2015
Paratoi'r tir ar gyfer y Tŷ Tyrbin o dan ofal gwyliadwrus yr archeolegwr Ian Brooks. Yr unig ddarganfyddiad hyd yn hyn: dau fotel llefrith Norther Dairies!

14 Mai 2015
Cwblhau cloddio’r sylfaen ar gyfer cartref y tyrbin.

Gosod y bibell all-lif ar gyfer y tyrbin.

16 Mai 2015
Tywallt y concrid ar gyfer sylfaen cartref y tyrbin.

26 Mai 2015
Cloddio sylfaeni’r isbwerdy.

29 Mai 2015
Gosod llawr yr isbwerdy.

John Howarth yn arolygu’r sylfaeni.

10 Mehefin 2015
Cwblhau gwaith brics yn y ffos ar gyfer y cebl yn arwain i'r isbwerdy - 8 Mehefin.

Yn y cyfamser mae Kevin Williams, ein contractwr, wedi bod yn brysur yn nyffryn Anafon yn gweithio ar y beipen.
Mae’r rhanau 10m o'r beipen polyethylene yn cael ei weldio at ei gilydd i greu darnau 130m o hyd.


Peiriant weldio ar waith.

Creu llwybr dros dro.

Paratoi ar gyfer gosod y beipen ar y mynydd.

Agor ffos ar gyfer y darn cyntaf o beipen 130m.

Llusgo’r beipen i fyny’r llethr.

Gosod y beipen yn y ffos.

Y rhan gyntaf yn ei le.

Gorchuddio'r beipen.

Paratoi y ffos am y darn nesaf o’r beipen.

Weldio’r ddwy beipen at ei gilydd.

15 Mehefin 2015
Gwirio'r atgyfnerthiad a gyfer y llawr y tŷ tyrbin.

16 Mehefin 2015
Mae llawr y tŷ tyrbin yn cael ei gastio.

Yn y cyfamser, ar y mynydd:
Mae 400m cyntaf y lein beipiau bellach yn ei le.

Ac adfer y mynydd yn mynd rhagddo'n dda.

Y mynydd yn ei ôl - mewn ychydig fisoedd, bydd yn anodd i weld ble mae'r lein beipiau yn rhedeg.

Mae darn cyntaf y lein beipiau yn cael ei osod ar lan ogleddol Afon Anafon.

Gwaith yn dechrau i glirio coridor y lein beipiau trwy Coedwig Coedydd Aber.

23 Mehefin 2015
Waliau'r is-orsaf bron hanner ffordd wedi’w cwblhau.

Yn y cyfamser, ar y mynydd:
Mae'r biblinell ar lan ddeheuol Afon Anafon yn cael ei gosod ac mae ochr y mynydd wedi ei ail sefydlu.

Mae’r lefelau ar gyfer y biblinell ar hyd rhannau cychwynnol y bibell islaw'r gored yn hynod allweddol gan fod y cwymp dim ond 1 mewn 165. John Howarth yn gwneud gwiriad terfynol o'r lefelau.

Mae'r toriad ar gyfer y biblinell yn dod o fewn golwg lleoliad y gored (wrth y coed yn y cefndir).

Mae'r bibell yn cael ei thywys i mewn i'w ffos. Dim ond un adran fer o bibell polyethylen a’r bibell ddur sy’n croesi’r afon sydd gan Kevin Williams i osod cyn iddo symud i'r goedwig. Bydd Gelli yn gosod rhan olaf y biblinell sy’n cysylltu â'r gored pan gaiff hyn ei adeiladu.

Mae gosod y biblinell ar lan ogleddol Anafon yn tynnu tua'r terfyn gyda llawer o'r llwybr wedi ei hail sefydlu.

26 Mehefin 2015
Mae Emyr Roberts, Prif Weithredwr, Cyfoeth Naturiol Cymru, a Derek Stephen, Rheolwr Rhaglen Darparu Ynni, wedi ymweld â’r prosiect ddoe.
Mae Aeron, rheolwr y safle Gelli, yn egluro’r safle i Emyr Roberts.

Emyr Roberts a Gavin Gatehouse ar y safle'r tŷ tyrbin.

29 Mehefin 2015
Rhesi olaf wal flociau’r ystafell dyrbin.

Yn y cyfamser, ar y mynydd:
Y bibell ddur ar gyfer croesfan yr afon yn cyrraedd y safle.

Y bibell yn cael ei gosod ar draws yr afon.

30 Mehefin 2015
Mae'r pibellau yn eu lle ar gyfer y cysylltiad terfynol ar y bont bibell.

Y cysylltydd yn cael ei folltio.

Pob cysylltiad wedi ei gwblhau ar y bont bibell.

Y bont bibell ar draws Afon Anafon yn ei lle.

3 Gorffenaf 2015
Slab to is-orsaf y Tŷ tyrbin yn cael ei gastio.

Rhesi olaf wal flociau’r ystafell dyrbin.

Yn y cyfamser, ar y mynydd:
Y bont bibell wedi ei chwblhau a’r llethrau cyfagos wedi eu hailosod.

Y bont bibell.

Ac yng Nghoedydd Aber:
Kevin Williams yn symud ei dîm i lawr o'r mynydd a'r orsaf weldio yn cael ei sefydlu eto.


Weldio’r cysylltydd rhwng y dau fathau o bibell.

6 Gorffenaf 2015
Mae'r rhostir yn dechrau tyfu’n ôl yn dda ar ôl 3 wythnos.

15 Gorffenaf 2015
Gosod y trawst i gynnal to tywarch y tŷ tyrbin.

Golygfa o’r tŷ tyrbin o gyfeiriad y rhaeadr fawr.

Yn y cyfamser, ar y lein beipiau:
Y ffos ar gyfer y bibell yn ymuno a diwedd y bibell ar y mynydd.

Agor y ffos a llusgo'r bibell i fyny’r mynydd.

Cysylltu dau ben y bibell - 9 Gorffenaf.

Y bibell yn cyrraedd ffordd y goedwig lle gaiff ei gladdu yn y clawdd.

Bibell fwy trwchus yn cymryd lle'r bibell denau yn is i lawr er mwyn dygymod gyda'r cynnydd yn y gwasgedd dwr.


Clirio'r clawdd yn y goedwig yn barod ar gyfer y bibell.

Gelli yn cychwyn gweithio a’r safle’r gored:
Llwybr dros dro at y gored yn cael ei osod

Ac yn cyrraedd y safle o'r gored.

Agor sianel gyntaf i ailgyfeirio'r llif i lan gogleddol yr afon.

Ail gyfeirio'r afon i adael y peiriant osod y bibell ar y clawdd deheuol. Bydd y bibell yn cludo’r afon tra mae’r gored yn cael ei adeiladu.

29 Gorffenaf 2015 - Diwrnod cofiadwy!
Mae’r tyrbin yn cyrraedd Abergwyngregyn ar ôl teithio o’r Unol Daleithiau drwy ddociau Lerpwl.


Dadlwytho’r tyrbin,

cludo’r tyrbin drwy’r pentref i'r tŷ tyrbin

ac i mewn drwy ddrysau’r tŷ tyrbin.

Ei symud i’r man cywir

ai osod yn ei le.

Yn y cyfamser, ger y gored:
Paratoi’r ffos ar gyfer y bibellau ar lan deheuol yr afon.

Gosod y pibellau ac ailgyfeirio'r llif drwyddynt.

4 Awst 2015
Safle adeiladu’r gored

Gyda’r afon wedi ailgyfeirio mae’r atgyfnerthiad i’r sylfaen y gored yn cael ei osod

ac mae’r sylfaen wedi castio gyda’r atgyfnerthiad i’r wal y gored yn ei le.

11 Awst 2015
Ger y gored
Mae’r estyll i wal y gored wedi gosod.

13 Awst 2015
Ger y safle gored
Symudwyd yr estyll i amlygu strwythur wal y gored.

Yn y cyfamser, ger y Tŷ Tyrbin
Mae’r to yn barod i dderbyn y mawn sedum.

Gosodwyd y generadur a’r cabanau offer.

Mae’r manifold sydd yn cysylltu'r bibell a'r tyrbin yn ei le

ac mae’r allfa sydd yn dychwelyd y dŵr o’r tyrbin i’r afon bron wedi gorffen.

19 Awst 2015
Yng Nghoedydd Aber
Mae’r gosod y bibell yn cyrraedd y man lle mae’r llinellau trydan uwchben yn croesi’r dyffryn.

ac mae’r llethr wedi adfer.

Mae’r darnau diwethaf o’r bibell drwchus yn cael ei weldio.

ac mae’r darn diwethaf o’r bibell yn disgwyl cael ei osod ar waelod y llwybr goedwig.

22 Awst 2015
Ger y safle gored
Gosodwyd y tanc a’r gwaith pibell ac mae’r bloc angor y bibell wedi castio.

24 Awst 2015
Ger y Tŷ Tyrbin
Y Ty tyrbin gorffenedig fel y gwelwyd o’r giât i mewn i’r Warchodfa Rhaeadr Fawr

mewn cymhariaeth gyda’r darlun argraff cyhoeddwyd gynt.

Y Ty tyrbin gorffenedig fel y gwelwyd o’r llwybr yn dychwelyd o’r Rhaeadr Fawr

mewn cymhariaeth gyda’r darlun argraff cyhoeddwyd gynt.

Yng Nghoedydd Aber
Mae’r bibell dur sydd yn cludo’r dŵr i lawr y llethr yn cyrraedd y safle tra bod Gwasanaethau Coed Alfa yn gwneud dipyn o glirio coed munud diwethaf.

28 Awst 2015
Ar y lein beipiau
Mae’r bibell dur sydd yn rhedeg i lawr y banc tu ôl i’r tŷ tyrbin yn cael ei gosod.

Mae’r darn diwethaf o’r bibell polythen yn cael ei chysylltu gyda’r bibell dur i lawr y banc tu ôl i’r tŷ tyrbin.

Mae’r bibell dur sydd mewn golwg yn derbyn cas plastig insiwleiddio.

8 Medi 2015
Ar y lein beipiau
Kevin Williams yn darganfod craig yng Nghoedydd Aber.

Y darn diwethaf o’r bibell mewn ffos trwy’r graig.

Ger y Gored
Gwaith codi clawdd cerrig ar y lan deheuol.

Cladin derw'r gored wedi ei chwblhau.

Glaw trwm yn gorlethu'r pibellau gwyriad ac yn llwyrfoddi yr ardal gweithio dros dro - 6 Medi 2015.

Mae’r clawdd cerrig ar lan deheuol wedi ei chwblhau ac mae ffos i dderbyn y darn diwethaf o bibell i’r gored yn cael ei agor.

Y bibell sydd yn cysylltu’r llinell peipiau dan ddaear i’r gored mewn ffos.

9 Medi 2015
Ger y Tŷ Tyrbin
Y “Ditch Witch” peiriant drilio cyfeiriadol Scottish Power yn cael ei chludo trwy’r pentref i’r tŷ tyrbin.

Y “Ditch Witch” tu ôl i’r tŷ tyrbin.

Mae’r rig yn dechrau drilio o dan yr afon I ‘r cebl cysylltu gyda’r grid - 2 Medi 2015.

Mae’r dril yn dod i olwg ger y polyn a fydd y derbyn y cysylltiad gyda’r grid ar ochr arall i’r afon ar ôl pasio trwy graig 4 medr o dan yr afon.

Pen y dril.

Mae’r bibell blastig goch sydd yn derbyn y cebl cysylltu gyda’r grid a’r cebl daearu yn cael ei chysylltu gyda’r pen tu chwith.

Mae’r rhod dril gyda’r pen troell tu chwith, y bibell blastig a’r cebl daearu yn cael i dynnu yn ôl i lawr y twll drilio.

Mae’r beipen blastig sydd yn derbyn y cebl i gysylltu gyda’r grid yn cael ei thynnu’n ôl o dan yr afon i gefn y tŷ tyrbin.

15 Medi 2015
Ger y gored
Mae’r sgrin coanda lle mae’r dŵr yn cael ei echdynnu o’r afon i’r lein beipiau yn cael ei osod - 9 Medi.

Manylion y sgrin coanda yn dangos slotiau echdynnu dŵr.

Mae’r pibellau gwyriad yn cael ei chau ac mae’r gored yn cael ei llwyrfoddi.

Tyrfedd i lawr yr afon un awr ar ôl llwyrfoddi’r cored; erbyn amser cyrraedd y bont pibell, roedd y llif yn glir.

Mae’r llif yn glir ger y gored 4 awr ar ôl llwyrfoddi’r cored.

Y gored oddi fewn ei dirlun.


24 Medi 2015
Ar y lein beipiau
Unioni’r lein beipiau i’r uniad diwethaf.

Esmwytho’r cysylltydd dros yr uniad!

Mae’r coil weldio tu fewn i’r cysylltydd yn cael ei actifadu i gwblhau’r cysylltiad diwethaf yn y lein beipiau.

Fflysio'r rhan uchaf o’r lein beipiau gyda dŵr - 23 Medi 2015.

Fflysio'r lein beipiau ar ôl ei chwblhau.

29 Hydref 2015
Ar y lein beipiau
Trydedd falf lwcus! Ar ôl ddwy falf osgoi yn ymddangos yn ddiffygiol, gosodwyd y trydydd gan John Howarth a oedd yn gweithio! - 14 Hydref

Llenwi’r bibell ac mae’r pwysau o 27.7 bar yn y Tŷ Tyrbin yn cael ei gynnal sydd yn dangos bod o yn dal dŵr - 15 Hydref

Profi’r bibell o safbwynt dal pwysau. Pwmpio dŵr i mewn i’r bibell yn y gored a chodwyd y pwysau I 23.7 bar Ni welwyd unrhyw ddiffygion. 26-27 Hydref

Ar ôl y profion pwysau o’r bibell, claddwyd holl bwyntiau cyswllt a oedd yn dangos ac ail sefydlwyd y tit tu ôl i’r Tŷ Tyrbin. 29 Hydref

Ail sefydlwyd y ffordd goedwig uwchben y Tŷ Tyrbin 29 Hydref

Mae’r banc dros y bibell dan ddaear trwy Goedydd Aber yn adfer yn dda.





20 Tachwedd 2015
Ger y Tŷ Tyrbin ac ar y llinell trydan
Contractwyr Scottish Power yn gweithio i uwchraddio’r llinellau trydan uwchben y pentref i gymryd y pŵer y byddwn yn cynhyrchu - 16 Tachwedd

Cebl cysylltu’r grid yn cael ei fwydo trwy’r bibell o dan yr afon a’i chladdu mewn rhych at y polyn lle mae’n cysylltu gyda’r grid - 17 Tachwedd

Yn dyfod allan o bibell tu ôl i’r Tŷ Tyrbin cysylltwyd y cebl gyda’r tan-orsaf - 19 Tachwedd

Scottish Power yn cwblhau mewn gosod o’r tan-orsaf wrth y Tŷ Tyrbin - 20 Tachwedd

Yn y cyfamser, mae’r glaw trwm mis Tachwedd yn golygu ein body n colli amser cynhyrchu sylweddol - 14 Tachwedd

26 Tachwedd 2015
Ar y llinell trydan
Contractwyr Scottish Power yn cwblhau’r uwchraddio o'r gwifrau o'r pentref i'r polyn a fydd yn derbyn y cysylltiad o'r Tŷ Tyrbin.

Mae'r cebl sydd yn rhedeg o dan yr afon o'r Ty Tyrbin yn cael ei gosod i fyny’r polyn i gysylltu gyda'r gwifrau uwchben.

28 Tachwedd 2015
Ger y Tŷ Tyrbin
Ochr isod y tyrbin o’r swmp: yr olwyn Pelton dur gwrthstaen, y cyfarpar ailgyfeirio sydd yn ail gyfeirio'r dŵr i ffwrdd o'r olwyn ac yn stopio'r tyrbin os yna diffygion yn digwydd ac, yn wal gefn o'r amgaead, mae'r falf picell sydd yn agor i gyfeirio’r chwistrell o ddŵr dan bwysau tuag at yr olwyn i wneud o droi ar 1000cyf.

Mae'r tyrbin yn cyrraedd ei chyflymder gweithredu o 1000-cyf yn ystod profion comisiynu - 27 Tachwedd.

Cynhyrchu 270 foltiau ar bob un o’n tair llinell - 27 Tachwedd

Mae'r Hydro Anafon wedi cysylltu gyda'r grid ac yn allforio trydan - 27 Tachwedd

Dyma'r criw o dri yn codi gwydr 28 Tachwedd - 28 Tachwedd!

O'r chwith ein peirianwyr Dave Roberts a John Howarth (gyda Brock), Liz Gatehouse (gyda Molly jyst mewn golwg), Hywel Thomas, Ian Crystal a Jacqui Bugden, Gavin Gatehouse - 28 Tachwedd.

Anthony Clark (Scottish Power) a Dave Roberts yn cynnal profion G59. Mae'r profion yn llwyddiannus ac felly mae hyn yn caniatáu i ni gofrestru am ein Tariff bwydo i mewn o heddiw ymlaen - 30 Tachwedd.

1 Rhagfyr 2015
Wel dyna ni camp!! Mae'r Hydro Anafon wedi cwblhau ac yn rhedeg mis o flaen llaw ac yn allforio 270kW i'r grid!

Ein cefnogwyr
Cydnabyddwn yn ddiolchgar gefnogaeth y canlynol: