Buddsoddi yn Ynni Anafon Energy Cyf.
Lansiwyd ein cynnig cyfranddaliadau gan y naturiaethwr a’r darlledydd Iolo Williams, mewn gŵyl yn Abergwyngregyn, yr Abba Dabba Doo ar 13 Medi 2014 a ddenodd dros 100 o ymwelwyr i'r pentref.
Cododd y cynnig cyfranddaliadau dechreuol dros £325,000 cyn y dyddiad cau sef 30 Tachwedd 2014. Arwyddocâd y dyddiad hwn oedd ein bod wedi gosod nod i’n hunain o godi £300,000 erbyn hynny cyn ymrwymo i adeiladu Hydro Anafon. Fel y gwelwch, wnaethom fynd heibio’r nod hwn ac felly wnaethom ni fwrw ymlaen gyda’r cynllun.
Y cyfanswm a dderbyniwyd trwy werthu cyfranddaliadau oedd
£450,900. Diolch yn fawr i'n buddsoddwyr am fuddsoddi yn y Cynllun Hydro Anafon. Roedd bob punt ychwanegol a dderbyniwyd trwy gyfranddaliadau yn lleihau'r swm roedd rhaid i niei fenthig o’r banc ar ffurf benthyciadau drud. Roedd pob buddsoddiad yn denu gostyngiad treth o 50% neu 30% o’r swm a fuddsoddwyd trwy'r “Seed Enterprise Investment Scheme (SEIS)” neu’r “Enterprise Innvestment Scheme (EIS) gan HMRC” a bydd y cwmni yn talu llog , yn gychwynnol ar 5%, o flwyddyn 3 o gynhyrchu.
Cyn belled eich bod yn deilwng fel trethdalwr Prydain, mae’r SEIS a’r EIS yn gallu cael effaith arwyddocaol ar eich adenillion ariannol fel buddsoddwr, fel mae’r ffigyrau isod yn dangos , sydd yn cymryd i ystyriaeth y gostyngiad treth ar eich buddsoddiad.
Rhagamcan o adenillion dros 10 mlynedd:- Heb ostyngiad treth 4-5%
- Gyda SEIS 8-9%
- Gyda EIS 6-7%
Os ydych yn gyfranddaliwr ac nad ydych wedi ceisio am eich gostyngiad treth o dan yr SEI neu EIS, yna dylech wneud ar y ffurflenni priodol y byddwch wedi derbyn gan Sharenergy sydd yn gweinyddu ein cynllun cyfranddaliadau.
Gallwch wneud eich cais rŵan, neu i fyny at 5 mlynedd ar ôl y 31 Ionawr yn dilyn y flwyddyn treth pan wnaethpwyd y buddsoddiad. Bydd y swm y gostyngiad y galwch geisio amdano yn ddibynnol ar eich sefyllfa treth bersonol.
Cofiwch, mae ceisiadau am y gostyngiad treth i HMRC yn cael ei gwneud gennych chwi, y buddsoddwr ac nid Ynni Anafon Energy. Details of the schemes can be found at:
Dolen i safle SEIS a EIS HMRS www.hmrc.gov.uk/seedeis/
Buddiannau o'ch buddsoddiad yn Ynni Anafon Energy
Fel cyfranddaliwr yn Ynni Anafon Energy Cyf., yr ydych yn chwarae rhan weithgar yn y gwaith cynhyrchu hydro-electrig mewn perchenogaeth gymunedol raddfa fawr yng Ngogledd Cymru. Gyda’ch cymorth, yr ydym wedi gallu harneisio egni dŵr Afon Anafon i greu ynni adnewyddol, i gefnogi cymunedau lleol a phrosiectau cymunedol a hefyd, i ddarparu i chwi, ein buddsoddwyr, elw ariannol ar eich buddsoddiad. Yr ydych yn cyfrannu at hyrwyddo ynni adnewyddol cymunedol sydd gyda'r potensial i leihau yn sylweddol ein dibyniaeth ar ynni tanwydd ffosil ac egni niwclear.
Rydym yn gobeithio eich bod yn teimlo'n falch o fod yn rhan o'r fenter gymunedol flaengar, o’ch cefnogaeth i ynni adnewyddol ac o’ch cyfraniad i ddyfodol mwy cynaliadwy a gwyrdd.Termau ac Amodau
Mae gan gyfranddaliadau yn Ynni Anafon Energy Cyf. werth sefydlog o £50 yr un. Bydd gwerth pob cyfranddaliad yn parhau’n ddigyfnewid ar £50 ac, yn wahanol i ‘gyfranddaliadau cyffredin’ sy’n nodweddiadaol o gwmni cyfyngedig, ni ellir eu gwerthu, eu cyfnewid na’u trosglwyddo rhwng Aelodau na’r cyhoedd ehangach. Ni ellir ond eu gwerthu’n eu holau i Ynni Anafon Energy Cyf. yn ddibynnol ar gytundeb y Cyfarwyddwyr.
Bydd cyfranddeiliaid yn derbyn taliad blynyddol o elw ar werth eu cyfranddaliadau, gan ddechrau yn ystod y drydedd flwyddyn wedi i’r hydro gael ei gomisiynu. Bydd graddfa’r elw’n cael ei argymell gan Fwrdd y Cyfarwyddwyr a’i gytuno gydag Aelodau Ynni Anafon Energy Cyf. yn eu Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol; rhagwelir y bydd y raddfa llog yn 4-5% yn y dechrau. Telir llog ar y cyfranddaliadau yn llawn felly cyfrifoldeb y cyfranddeiliad ydyw i ddatgan yr enillion hyn i Gyllid y Wlad.
Bydd pob cyfranddeiliad yn dod yn Aelod o YAE gyda’r hawl i bleidleisio yn y Cyfarfod Blynyddol. Fodd bynnag, dim ond un bleidlais fydd gan bob cyfranddeiliad, dim ots faint o gyfrnddaliadau sydd ganddo
Mae hi’n fwriad gan y Cyfarwyddwyr dechreuol i ryddhau dau ddosbarth o gyfranddaliadau: Cyfranddaliadau-A a fydd wedi eu cadw ar gyfer buddsoddwyr o blith y gymuned leol a Chyfranddaliadau-B fydd yn cael eu rhyddhau i’r cyhoedd ehangach yng Nghymru a thu hwnt. Mae Rheolau’r Gymdeithas yn datgan y bydd yna hyd at 9 Cyfarwyddwr, hyd at 4 i’w hethol gan Gyfranddeiliaid-A, hyd at 3 i’w hethol gan Gyfranddeiliaid-B a 2 i’w henwebu gan y Cwmni Adfywio Abergwyngregyn.
gwelid dolen i Reolau YAE fel dogfen.PDF lawrlwythadwy