15 Ionawr 2024
Cynhyrchiant Rhagfyr 202318 Rhagfyr 2023
Cynhyrchiant Tachwedd 202306 Tachwedd 2023
Cynhyrchiant Hydref 202311 Hydref 2023
Cynhyrchiant Medi 202316 Medi 2023
Cynhyrchiant Awst 202318 Awst 2023
Cynhyrchiant Gorffennaf 2023[
04 Gorffennaf 2023
Cynhyrchiant Mehefin 202316 Mehefin 2023
Cynhyrchiant Mai 2023[
30 Mai 2023
Cynhyrchiant Ebrill 202321 Ebrill 2023
Cynhyrchiant Mawrth 202305 Mawrth 2023
Cynhyrchiant Chwefror 2023[
02 Chwefror 2023
Cynhyrchiant Ionawr 202305 Ionawr 2023
Cynhyrchiant Rhagfyr 2022[
1 Rhagfyr 2022
Cynhyrchiant Tachwedd 202215 Tachwedd 2022
Cynhyrchiant Hydref 2022[
05 Hydref 2022
Cynhyrchiant Hydref 202202 Medi 2022
Cynhyrchiant Awst 202205 Awst 2022
Cynhyrchiant Gorffennaf 202212 Gorffennaf 2022
Cynhyrchiant Mehefin 202202 Mehefin 2022
Cynhyrchiant Mai 202210 Mai 2022
Cynhyrchiant Ebrill 202218 Ebrill 2022
Cynhyrchiat Mawrth 202212 Mawrth 2022
Cynhyrchiant Chwefror 202211 Chwefror 2022
Cynhyrchiant Ionawr 202213 Ionawr 2022
Cynhyrchiant Rhagfyr 20218fed o Ragfyr 2021
Cynhyrchiant Tachwedd 202117 Tachwedd 2021
Cynhyrchiant Hydref 202101 Hydref 2021
Cynhyrchiant Medi 202113 Medi 2021
Cynhyrchiant Awst 202110 Awst 2021
Cynhyrchiant Gorffennaf 202113 Gorffennaf 2021
Cynhyrchiant Mehefin 202109 Mehefin 2021
Cynhyrchiant Mai 2021[
20 Mai 2021
Cynhyrchiant Ebrill 202109 Ebrill 2021
Cynhyrchiant Mawrth 202109 Mawrth 2021
Cynhyrchiant Chwefror 202104 Chwefror 2021
Cynhyrchiant Ionawr 202113 Ionawr 2021
Cynhyrchiant Rhagfyr 2020[
17 Rhagfyr 2020
Cynhyrchiant Tachwedd 202012fed o Dachwedd 2020
Cynhyrchiant Hydref 2020[
15fed o Hydref 2020
Cynhyrchiant Medi 2020[
07fed o Fedi 2020
Cynhyrchiant Awst 2020[
18 Awst 2020
Data Cynhyrchu Gorffennaf 2020[
27 Gorffennaf 2020
Data Cynhyrchu Mehefin 2020[
05 Mehefin 2020
Data Cynhyrchu Mai 2020[
Yn dilyn cyfnod hynod o sych, ni fu cynhyrchu trydan o gwbl ym Mis Mai a dyma'r tro cyntaf i hyn ddigwydd ers i ni ddechrau cynhyrchu ar y 1af o Ragfyr 2015. Nid oedd Ebrill yn llawer gwell on bu'r genllif dros y Gaeaf a dechrau'r Gwanwyn yn ddigon i ni gyrraedd 50.9% o'r nod erbyn diwedd Mawrth. Os bydd glaw arferol dros yr Haf a'r Hydref, dylwn yn hawdd gyrraedd y nod am y flwyddyn.10 Mai 2020
Data Cynhyrchu Ebrill 2020[
17 Ebr 2020
Data Cynhyrchu Mawrth 2020[
19 Mawrth 2020
Data Cynhyrchu Chwefror 2020[
[
04 Chwefror 2020
Data Cynhyrchu Ionawr 202003 Ionawr 2020
Data Cynhyrchu Rhagfyr 201904 Rhagfyr 2019
Data Cynhyrchu Tachwedd 20194 Chwefror 2020
Rydan ni yn ol ar-lein!
Cawsom drafferthion technegol ers 3 mis, o achos cwmni cyflenwi. Ymddiheuriadau am hyn a hyderwn y bydd y wybodaeth yma o fudd i chi ,
19 Hydref 2019
Data Cynhyrchu Medi 201904 Medi 2019
Data Cynhyrchu Awst 201910 Awst 2019
Data Cynhyrchu Gorffennaf 201928 Gorffennaf 2019
Data Cynhyrchu Mehefin 201917 Mehefin 2019
Data Cynhyrchu Mai 201901 Mai 2019
Data Cynhyrchu Ebrill 201914 Ebrill 2019
Yr eglureg a osodwyd y tu allan i'r cwt tyrbin yn Abergwyngregyn ar y 11eg o Ebrill 2019
03 Ebrill 2019
Data Cynhrchu Mawrth 201909 Mawrth 2019
Data Cynhyrchu Chwefror 2019[
17 Chwefror 2019
Data Cynhyrchu Ionawr 201929 Ionawr 2019
Data Cynhyrchu Rhagfyr 201804 Ionawr 2019
Data Cynhyrchu Tachwedd 201812 Tachwedd 2018
Data Cynhyrchu Hydref 201818 Hydref 2018
Data Cynhyrchu Medi 201818 Medi 2018
Data Cynhyrchu Awst 201817 Awst 2018
Data Cynhyrchu Gorffennaf 201816 Gorffennaf 2018
Data Cynhyrchu Mehefin 2018Ni fu dwr yr afon mor isel ers degawdau – 1976 meddai rhai! Rhêd y nant fechan drwy’r rhigol gan adael y gronfa a cheg yr hydro yn sych fel nyth câth.Tu hwnt i giât y mynydd yn Abergwyngregyn, ar y ffordd i’r gronfa yn Dyffryn Anafon, rho’r eithin a’r rhedyn yr argraff fod glaswellt yn tyfu, ond gwellt crin sydd odditano ac hefyd yn y mannau agored.16 Meh 2018
Data Cynhyrchu Mai 201803 Mai 2018
Data Cynhyrchu Mawrth/Ebrill 201830 Mawrth 2018
Data Cynhyrchu Chwefror 201807 Chwefror 2018
Data Cynhyrchu Ionawr 201805 Ionawr 2018
Data Cynhyrchu Rhagfyr 201710 Rhagfyr 2017
Patrwm cynhyrchu Ynni Anafon dros y ddwy flynedd gyntaf. Dechreuwyd cynhyrchu ar 1af o Ragfyr 2015.08 Rhagfyr 2017
Yr ail flwyddyn o gynhyrchu trydan gan Ynni Anafon
‘Roedd hanner nôs y 30ain o Dachwedd yn nodi’r ail flwyddyn o gynhyrchu gennym. Er gwaethaf dechrau Hâf hynod o sych, gallwyd allforio
994 MWh
o drydan glân i’r Grid ac ‘roedd hyn yn 3% yn fwy na’r disgwyl.
Dros y ddwy flynedd gyntaf yma, ‘rydym wedi allforio
2,130 MWh
o drydan sydd yn 11% mwy na’r amcangyfrif ac yn ddigon i gyflenwi anghenion tua 530 o dai preswyl ym Mhrydain.
Gyda diolch o galon i’n holl gyfranddalwyr a’r gwirfoddolwyr, dyma enghraifft dda o ddygnwch a llwyddiant cymuned leol!
05 Rhagfyr 2017
Cytundeb y Loteri Fawr Ynni Anafon, Datblygiadau Egni Gwledig - Cyfleoedd am waith, cewch fanylion ar: http://www.deg.wales/gweithio-gyda-deg/14 Gorffennaf 2017
Cynhelir Cyfarfod Cyffedinol Blynyddol 2017 o Ynni Anafon Energy yn Ystafell Gymunedol Yr Hen Felin, Abergwyngregyn (LL33 0LW) am 12.00 o'r gloch, Sadwrn 29 Gorff.
Bydd y dogfennau perthnasol yn cael ei anfon allan i gyfranddalwyr yn y dyfodol agos ac mae'r Cyfarwyddwyr yn gobeithio y bydd nifer halaeth ohonoch yn gallu mynychu.1 Rhagfyr 2016
Penblwydd Hapus Hydro Anafon!
Roedd hanner nos neithiwr yn gweld blwyddyn gyntaf llawn o gynhyrchu ynni glan gan Hydro Anafon. Yn ystod y flwyddyn gyntaf wnaethom allforio
1,128.130 KWh
o drydan i'r grid cenedlaethol, ennill tua £240,000 crynswth. Mae hyn yn 18% fwy na'r swm wnaethom ragamcanu i'r hydro o 957,000 KWh.
Mae hyn yn ddigon o drydan i gwrdd defnydd blwyddyn i 284 o dai arferol; oherwydd dim ond 100 o dai sydd yn Abergwyngregyn, rydym felly o effaith wedi allfori bron i ddwywaith mwy o drydan na mae'r pentref yn defnyddio.23 Hydref 2016
Er gwaethaf nifer o gyfnodau sych dros yr haf pan nad oedd yna digon o ddŵr yn yr afon i greu ynni, pythefnos yn ôl wnaeth Hydro Anafon pasio'r cerrig filltir o gynhyrchu 1,00 MWh ers 1 Rhagfyr 2015. Mae'r allbynnu nawr yn sefyll ar 1,028 MWh neu yn ddigon i bweru 256 o dai arferol am flwyddyn. Mae hyn yn mynd tu hwnt i'r allbwn blynyddol a ddisgwylir o 957 MWh a hyn maer ein holl ragamcaniadau wedi seilio ac mae yna dal 5-6 wythnos i fynd tan ein pen blwydd. Gobeithiwn cawn dipyn o law ym mis Tachwedd.
21 Hydref 2016
Ymddiheuriadau am y cyfnod hir diweithred ar wefan YAE. Fel y gwelwch, mae’r wefan wedi ei had-newyddu a’i symleiddio. Mae hi bellach yn cynnwys manylion y Bwrdd a etholwyd yn y Cyfarfod Blynyddol ar 16 Gorffennaf 2016 (ar dudalennau ‘The Venture’ ac ‘Y Fenter’) yn ogystal â chofnod ffotograffig cynhwysfawr o adeiladu Hydro Anafon yn 2015 (ar dudalennau ‘The Project’ ac ‘Y Cynllun.
Er gwaethaf rhai cyfnodau byr yn ystod yr haf pan na fu digon o ddŵr i gynhyrchu pŵer, fe aeth Hydro Anafon ddwy wythnos yn ôl heibio i’r garreg filltir o 1,000 MWh a, heddiw, saif cyfanswm ein cynnyrch ar 1,000 MWh mewn deg mis a thair wythnos o gynhyrchu. Mae hyn i’w gymharu â’r amcangyfrif cynnyrch blynyddol o 957MWh y seilwyd ein holl rafynegiadau arno. Ac mae gennym eto 6 mis i fynd cyn ein penblwydd dechrau cynhyrchu ar 1 Rhagfyr.
Mae’r peirianwaith newydd gael ei wasanaeth blynyddol cyntaf ac mae’n gweithredu fel y dylai. Un broblem yn ystod y flwyddyn gyntaf fu dinistr y sensorau lefel dŵr gan fellt yn ystod terfysg – mae ailgyflenwi’r rhain yn costio £1,000. Fodd bynnag, yn ystod darparu’r wasanaeth, mae’r trefniadau daearu ger yr ored wedi eu gwella’n sylweddol a bydd hynny, gobeithio, yn datrys y broblem.
Fe achosodd glaw eithriadol o drwm y gaeaf diwethaf beth difrod i’r ailosod o gwmpas yr ored ac ar hyd llwybr y bibell yn Nyffryn Anafon. Rydym wedi dodi cerrig mân yn lle llawer o’r pridd a olchwyd ymaith oddi wrth yr ored a dyla’r rheiny fod yn llai tegbygol o gae leu golchi ymaith gan lifogydd yn y dyfodol; hefyd, ar ofyn ecolegwyr yr NRW, rydym wedi ail-hau a gosod ffens dros dro o amgylch adran uchaf llwybr y bibell. Mae’r llystyfiant yma bellach wedi ei adfer yn dda a dylai fod yn bosib hepgor y ffensys y flwyddyn nesaf, dwy flynedd ynghynt nag y cynlluniwyd.
25 Mawrth 2016
Ar ôl llai na 4 mis, rydym wedi allforio mwy na 565 MWh o drydan gwyrdd i'r grid. Mae hyn yn gyfartal a 58% o ein rhagamcaniad o allbwn flwyddol!
Rydym yn falch iawn i adael i chi wybod am ddau brosiect cymunedol eraill yng Ngogledd Cymru, Ynni Ogwen ym Methesda ac Ynni Padarn/Peris yn Llanberis.
Mae'r rhain yn caniatáu cyfle newydd i fuddsoddi mewn cynlluniau ynni gwyrdd sydd yn debyg i un ni. Ymweld â ynniogwen.cymru a ynnipadarnperis.org2 January 2016
Trydan ac allforiwyd yn y mis cyntaf
Yn ein mis cyntaf o gynhyrchu trydan (1 -31 Rhagfyr 2015) rydym wedi allforio 171.78MWh o drydan i'r grid, sydd o werth tua £36,000. Mae hyn yn cynrychioli 17% o ein rhagamcan am y flwyddyn ac felly mae'r holl law rydym wedi cael gydag un canlyniad positif!
30 Medi 2015
Gwobrau Ynni Cymunedol Lloegr.
Roeddem wedi “Cymeradwyo yn uchel“ gan Ynni Cymunedol Lloegr yn y seremoni gwobr flynyddol yn Rhydychen cynhaliwyd 5ed Medi 2015 er ein bod yng Nghymru !
26 Mehefin 2015
Mae Emyr Roberts, Prif Weithredwr, Cyfoeth Naturiol Cymru, a Derek Stephen,
Rheolwr Rhaglen Darparu Ynni, wedi ymweld â’r prosiect ddoe.
Mae Aeron, rheolwr y safle Gelli, yn egluro’r safle i Emyr Roberts.
Emyr Roberts a Gavin Gatehouse ar y safle'r tŷ tyrbin.
4 Mai 2015 - Gweithredol o'r diwedd!
Cymuned Abergwyngregyn yn ymgasglu ar gyfer torri'r dywarchen gyntaf ar safle’r Tŷ Tyrbin
Eirlys Williams ac Emily Jones (4 mis), y preswylydd hynaf ac ieuengaf i’w geni yn Aber, yn torri’r dywarchen gyntaf
1 Mai 2015 - Cyfranddalwyr Ynni Anafon Energy Cyf yn ethol Bwrdd newydd
Y 9 Cyfarwyddwr yw: Jacqui Bugden, Ian Cuthbertson, Gavin Gatehouse, Wynn Griffiths, Linton Roberts, Martin Taylor, Hywel Thomas, Nick Venti a Nicki Whiting.
15 Ebrill 2015 - Bydd Ynni Anafon Energy Cyf yn cynnal ei CCB ar 1af o Fai i ethol y Bwrdd Cyfarwyddwyr newydd
Gobeithio y bydd cymaint â phosib o ein cyfranddalwyr yn gallu cymryd rhan yn y cyfarfod ac edrychwn ymlaen at eich cwrdd pryd hynny.
9 Ebrill 2015 - Benthyciad gan Charity Bank wedi ei chadarnhau!
Ar 8 Ebrill, wnaeth Pwyllgor Credyd Charity Bank cadarnhau ei chymeradwyaeth o'i ymrwymiad llawn i gynnig benthyciad i Ynni Anafon Energy Cyf. Mae'r pecyn ariannol a oedd angen i adeiladu Hydro Anafon nawr yn ei le ac rydym yn bwriadu dechrau gwaith adeiladu yn fuan mis Mai.
2 Ebrill 2015 - Mae'r cyfanswm a buddsoddwyd yn Ynni Anafon Energy Cyf. i ariannu'r Prosiect Hydro Anafon nawr wedi cadarnhau fel £450,900. £150,900 uwch na ein targed
1 Ebrill 2015 - Ecolegwyr, rheolwyr gwarchodfa a rheolwyr CNC yn cyfarfod John Howarth, Dr. Rod Gritten ac ein contractwyr am gyfarfod safle terfynol i drafod y Datganiad Methodoleg Adeiladu
31 Mawrth 2015 - Mae YAE wedi dewis contractwyr i adeiladu'r Prosiect Hydro Anafon
Yn dilyn proses tendro, bydd y Bwrdd yn cynnig contractau i adeiladu'r Hydro Anafon i ddau contractwr. Peirianneg Sifil Gelli. Tremadog, bydd yn adeiladu'r argae a'r tŷ tyrbin a Kevin Williams Peiriannwr Tir, Bontddu ger Dolgellau bydd yn gosod y gwaith pibell.
Mae gan Beirianneg Sifil Gelli brofiad eang o weithio gerllaw ac oddi fewn afonydd a Kevin Williams osodwyd y gwaith pibell i Hydro Harnog ac mae felly yn brofiadol mewn gwaith gosod pibellau ac ail sefydlu tir mewn amgylcheddau sensitif.
Bydd y contractwyr yn disgwyl dechrau gwaith yn fuan mis Mai"
27 Mawrth 2015 - John Howarth yn gadael Bwrdd Ynni Anafon Energy Cyf
Oherwydd ein bod ar fin dechrau'r gwaith o adeiladu Hydro Anafon, mae'r Bwrdd a John Howarth wedi penderfynu buasai yn addas iddo adael Bwrdd YAE i barhau ei waith fel Ymgynghorydd Technegol i'r Bwrdd a Pheirianwyr Prosiect Hydro Anafon.
Peirianwyr Derwent Hydro yn gweithredu asesiad technegol annibynnol o'r Prosiect Anafon ar ran Banc Charity, ein prif arianwyr go debyg
Gwaith torri coed wedi cwblhau ar hyd llinell y bibell trwy Goedydd Aber
Gwasanaeth Coed Alfa wedi cwblhau’r 100m o waith torri'r coed ar lwybr y bibell trwy goed Pyrwydd Sitka aeddfed Coedydd Aber ar y 17 Mawrth 2015, tri diwrnod o flaen amser.
Arolwg terfynol o'r llwybr y bibell.
Arolwg terfynol o lwybr y bibell Dyffryn Anafon ar y 3ydd o Fawrth yn arwain at fan newidiadau.
Dr Rod Gritten clerc gwaith ecolegol, Kevin Williams contractwr gwaith pibell a John Howarth, peiriannydd prosiect yn archwilio rhan o rostir sensitif.
Y tywydd yn cau i mewn!
Alfa Tree Services yn dechrau gwaith!
Paul Smith (Alfa) a'i dîm yn dechrau gwaith clirio llwybr y bibell trwy Goedwig Aber, dydd Mawrth y 3ydd o Fawrth 2015.
Paul yn trafod y gwaith gyda Kevin Williams contractwr gwaith pibell, John Howarth peiriannydd prosiect Dr Rod Gritten clerc gwaith ecolegol.
Gwaith yn cychwyn ar y safle!
Bydd gwaith paratoawl adeiladu hydro Anafon yn cychwyn ar y 3ydd Fawrth 2015. Bydd hyn yn cynnwys torri nifer o goed conwydd yng Nghoedydd Aber i greu coridor gweithio i’r llinell pibell. Bydd y gwaith yn cymryd tua 3 wythnos.
Buddsoddi yn Ynni Anafon Energy Cyf.
Mae Ynni Anafon Energy Cyf. (YAE) yn cynnig cyfranddaliadau yn y Gymdeithas ar werth i’r gymuned leol ac i’r cyhoedd.
Cododd y cynnig cyfranddaliadau dechreuol dros £325,000 cyn y dyddiad cau o 30 Tachwedd 2014. Arwyddocâd y dyddiad hwn oedd ein bod wedi gosod nod i’n hunain o godi £300,000 erbyn hynny cyn ymrwymo i adeiladu Hydro Anafon. Fel y gwelwch, rydym wedi mynd heibio i’r nod hwn ac felly rydym yn bwrw ymlaen gyda’r cynllun.
Fodd bynnag,
rydym yn dal i wahodd buddsoddi. Mae pob punt ychwanegol a godir o gyfranddaliadau yn lleihau’r swm y bydd rhaid i ni ei fenthyg o fanc neu gan fenthyciwr arall ar ffurf benthyciadau drutach. Byddwn yn parhau i dderbyn buddsoddiadau nes ein bod wedi cwblhau ein trafodaethau gyda’n prif fenthyciwr. Ar ôl y dyddiad hwnnw, yr ydym yn disgwyl iddo fod yn fuan yn y Flwyddyn Newydd, gosodir darpar-fuddsoddwyr pellach ar restr aros nes y daw cyfranddaliadau ar gael yn dilyn gwerthiannau yn ôl i’r cwmni.
Budd pob buddsoddiad pellach yn denu’r un gostyngiad treth EIS o 30% ac elw yn 5%.Ein canfed cyfranddaliwr!
Heddiw, 12fed Tachwedd 2014, dan ni'n croesawu ein canfed cyfranddaliwr.
Digwyddiad yn y Cynulliad Cymru "Hydro Cymunedol:Gweithio gyda'n gilydd am ein Dyfodol" yn cael ei gyflwyno gan Ynni Anafon, Ymddiriedoleath Cenelaethol Cymru a Chronfa Cymunedol Banc Robert Owen
Mae'r digwyddiad yn cael ei noddi gan Alun Ffred Jones AS a Llyr Huws Gruffydd AS. Byddwn yn egluro sut mae Cymuned Abergwyngregyn wedi gweithio i dwyn ymlaen Hydro Anafon a sut yr ydym wedi derbyn cefnogaeth gan yr Ymddiriedolaeth Cenelaethol a'r Chronfa Cymunedol Banc Robert Owen, ac mae'r ddau yn cefnogi nifer o prosiectau hydro cymunedol Cymreig eraill.
Dau Gyfarwyddwr newydd yn ymuno ar Fwrdd Ynni Anafon Energy
Mae Keith Jones, cydnabyddedig yng nghylch egni adnewyddadwy DU ac Uwch Ymgynghorydd Amgylcheddol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a John Howarth, Cyfarwyddwr JH Hydropower Services, wedi derbyn gwahoddiad i ymuno gyda Bwrdd Ynni Anafon Energy.
Maen nhw cam ar y blaen i ni ond mae Hydro Anafon yn bell ar ei ffordd!
Prynwch gyfranddaliadau i newid eich agwedd ch'i dywydd gwlyb!
http://youtu.be/5f0L-RPAR_Q/Mae Hywel Williams AS a Dafydd Meurig, Cynghorydd Cyngor Gwynedd, yn prynu cyfranddaliadau yn Ynni Anafon Energy er mwyn cefnogi Hydro Anafon
Buddsoddiad yn cyrraedd £207,300!
Mae cyfanswm buddsoddiad yn gyfranddaliadau Ynni Anafon wedi cyrraedd £207,300 gydag wythnos dal i fynd tan fydd y cynnig yn cau ar 30 Tachwedd 2014. Daliwch ati i fuddsoddi!
Mae Jacqui Bugden yn siarad â Tracy Jones 'Talking Business' Calon FH radio yn Wrecsam
Click to listen to Jacqui Bugden on Calon FM radioTARIFF-BWYDO-I FEWN ACHREDIAD RHAGARWEINIOL OFGEM WEDI EI CHANIATÁU Y 23 HYDREF 2014!
Newyddion ardderchog heddiw! Mae Ofgem wedi caniatáu i Ynni Anafon Energy Cyf. achrediad rhagarweiniol i'r prosiect hydro Anafon ar pris o 15.59c/KW, y pris a disgwylir yn ein cynllunio ariannol. Pan fydd y les gan Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ei arwyddo - mae termau wedi cytuno - byddwn gyda bob caniatâd, les a thrwyddedau mewn lle i fwrw ymlaen gyda'r prosiect.