Yr Hydro
Fydd yr Anafon Hydro yn cael effaith ar Raeadr Aber?

Watercolour by A E Penley 1807-1870 ©A.G.Gatehouse
Na fydd, ddim o gwbl. Mae Afon Anafon yn llifo i lawr dyffryn gwahanol i’r dwyrain i Ddyffryn Aber. Erbyn fod Afon Anafon yn cyfarfod ag Afon Rhaeadr Fawr ychydig i fyny’r llif o Bontnewydd, bydd yr holl ddŵr o’r tŷ tyrbin wedi ei ollwng yn ei ôl i mewn i’r afon.
Beth yw oes y cynllun hydro?
Adeiladir y seiliau concrid i barhau ymhell y tu draw i’r les 40-mlynedd sydd gennym ar y tir. Disgwylir i’r tyrbin barhau tua’r un hyd. Nid yw’n anghyffredin i gynlluniau hydro barhau am bron i 100 mlynedd heb broblemau mawr.
Faint o incwm fydd yr hydro yn ei gynhyrchu?
Am yr 20 mlynedd cyntaf, mae ein rhagfynegiadau ariannol yn awgrymu y bydd yr Anafon Hydro yn cynhyrchu incwm o tua £200,000 y flwyddyn, sy’n cynnwys gwerthu’r trydan a chymhorthdal o’r Llywodraeth am gynhyrchu ynni adnewyddadwy, sef y Tariff Talu-i-mewn. Wedi hynny, daw’r incwm o werthu trydan yn unig onibai y bydd cymorthdaliadau pellach gan y llywodraeth erbyn hynny.
Beth yw Tariff Talu-i-mewn?
Cymhorthdal gan y llywodraeth yw’r Tariff Talu-i-mewn (FiT). Mae’n cael ei weinyddu gan y rheolaethwr ynni Ofgem i hybu datblygiad cynhyrchu ynni adnewyddadwy. Dylai cynllun Anafon Hydro fod yn gymwys ar gyfer graddfa o FiT gwerth tua 3 gwaith pris cyfredol gwerthu trydan am bob KWh a gynhyrchir.
Beth fydd costau cynnal yr hydro unwaith ei fod yn weithredol?
Bydd costau cynnal yn cynnwys::
- cynnal a chadw a tsecio wythnosol;
- archwiliad cynnal a chadw blynyddol;
- rhent;
- trethi busnes;
- yswiriant;
- gweinyddu;
- paratoi ar gyfer yr annisgwyl;
- gwasanaethau technegol.
Beth fydd yn digwydd i’r elw a wneir gan Ynni Anafon Energy?
Bydd yr elw dros ben a gynhyrchir gan y hydro yn mynd trwy gymunrodd i elusen cymunedol, Dwr Anafon, yn cael ei sefydlu gan Cwmni Adfywio Abergwyngregyn ar gyfer eu ddosbarthu er budd cymunedau lleol.
Sut bydd yr enillion yn cael eu gwario gan YAE unwaith y bydd yr hydro’n weithredol?
Mae’r cyfarwyddwyr yn bwriadu i’r enillion o gynhyrchu, gwerthu ac allfudo trydan gan YAE gael eu defnyddio i dalu am gostau blynyddol rhedeg y cwmni fel a ganlyn:
- gofynion cyfreithiol, e.e. ffioedd yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol;
- gwasanaethau gweinyddol angenrheidiol ac yswiriant;
- unrhyw waith cynnal neu drwsio’r cyfarpar cynhyrchu;
- cronfa wrth gefn ar gyfer digwyddiadau annisgwyl a rhannau newydd ar gyfer y cyfarpar;
- talu llog a chyfalaf ar unrhyw fenthyciadau;
- taliadau i’r elusen newydd yn cael ei sefydlu ar gyfer ddosbarthu’r elw y hydro er budd cymunedau lleol
- talu llog i’n buddsoddwyr.
Beth fyddai’n digwydd i’m cyfranddaliadau pe bawn i’n marw?
Pe bai Aelod yn marw, byddai gwerth ad-dalu’r cyfranddaliadau fel arfer yn cael ei ychwanegu at ei ystad ar gyfer profiant. Mae gynnoch chi'r opsiwn i enwebu’r sawl fyddai’n derbyn gwerth eich cyfranddaliadau pe baech chi’n marw. Os rydych wedi hawlio gostyngiad treth EIS, gallwch osgoi talu Treth Etifeddiaeth ar y cyfranddaliadau trwy eu cynnwys yn eich ewyllys.
Fedraf i ddal cyfranddaliadau ar ran plant?
Rhaid i Aelodau fod o leiaf 16 mlwydd oed. Mae gan fuddsoddwr yr opsiwn o ddal cyfranddaliadau ar ran rhywun sydd dan 16 ond bydd y cyfranddaliadau hyn yn cael eu dal mewn ymddiriedolaeth nes fod y plentyn yn 16 (y buddsoddwr yw “ yr ymddiriedolwr “). Felly mae’r cyfranddaliadau yn eiddo personol yr ymddiriedolwr nes bydd y plentyn wedi cyrraedd 16 mlwydd oed. Pe bai’r ymddiriedolwr hefyd yn Aelod ar ei liwt ei hun, byddai hyn yn awgrymu y byddai’n Aelod ddwywaith drosodd ac y byddai ganddo/ganddi yr hawl i ddwy bleidlais. Gan na chaniateir hyn, ni all ymddiriedolwr sy’n dal cyfranddaliadau ar ran plentyn fod hefyd yn Aelod ar ei liwt ei hun.